Skip to main content

Parc Coffa Ynysangharad

Mae digonedd i'w fwynhau ym Mharc Coffa Ynysangharad - Lido Cenedlaethol Cymru, erwau o fannau agored, maes chwarae antur, cyrtiau chwaraeon, caffi a cherflun i goffáu cyfansoddwyr Anthem Genedlaethol Cymru.

Dyma gartref Lido Ponty, sef Lido Cenedlaethol Cymru, sy'n adferiad syfrdanol o’r lido gwreiddiol a agorodd yn y 1920au. Mae Lido Ponty yn agor yn dymhorol ac mae tri phwll awyr agored wedi’u gwresogi yma, sy’n cynnig sesiynau nofio ben bore, sesiynau hwyl i’r teulu gyda chwrs rhwystrau gwynt a phwll sblasio plant bach gyda ffynnon.

Ger Lido Ponty mae Chwarae'r Lido, maes chwarae antur hygyrch gyda siglenni, llithrennau, chwyrligwgan, twneli a phwll tywod, i gyd wedi’u cynllunio â thema ddiwydiannol i dalu teyrnged i orffennol Pontypridd.

Mae'r Waffle House yng Nghaffi'r Lido yn lle gwych i gael paned, byrbryd neu rywbeth melys.

Crwydrwch erwau’r parc, gan gynnwys y safle seindorf, yr ardd isel a’r llwybrau coediog. Arhoswch wrth gerflun Evan a James, sy’n talu teyrnged i’r tad a’r mab o Bontypridd a ysgrifennodd a chyfansoddodd yr Anthem Genedlaethol eiconig, Hen Wlad Fy Nhadau.

Ble: Pontypridd, CF37 4PD

Math: Atyniadau, Parciau

Cysylltwch â ni

Nodweddion

  • Accessible (wheelchair access, changing places, disabled facilities)
  • Autism Friendly
  • Dogs welcome
  • Great for history lovers
  • Great for kids
  • On-site restaurant/café

Allwedd y map

Rhestr bresennol

Llety

Bwyd a diod

Pwyswch fotwm shift wrth sgrolio i chwyddo mewn/allan ar y map