Caban Guto
Mae Caban Guto wedi'i leoli yng nghanol Coedwig hynafol Llanwynno.
Mae'r lleoliad clyd yma'n hafan i gerddwyr ac i'r rheiny sy'n hoffi antur – ac mae’n gyfeillgar i gŵn hefyd.
Mae'n gweini diodydd poeth ac oer a brechdanau brecwast a fydd yn eich paratoi chi ar gyfer diwrnod o gerdded yn y goedwig.
Neu, ar ôl i chi grwydro'r amgylchedd prydferth, mae modd i chi fwynhau brechdanau a chawl cartref i ail-lenwi.
Mae Caban Guto wedi'i enwi er anrhydedd i'r chwedlonol Guto Nyth Brân, a oedd yn byw gerllaw ac a oedd unwaith y dyn cyflymaf yn y byd.
Mae wedi'i gladdu yn y fynwent gerllaw yn Eglwys Sant Gwynno ac mae Rasys Nos Galan yn cael eu cynnal yn Aberpennar bob blwyddyn i gadw'r chwedl yma'n fyw.
Coedwig Llanwynno oedd maes hyfforddi Guto. Mae modd i chi grwydro'r tir yma am filltiroedd, a darganfod y gronfa ddŵr a'r rhaeadr.
Ble: Llanwonno, CF37 3PH
Math: Caffi