Mwynhau Noson Allan Wych yn RhCT
Os ydych chi'n chwilio am noson allan yn y dref ar ôl diwrnod prysur ar y Maes, neu awydd lle gwahanol i Faes B, mae llwyth i'w ddarganfod yn RhCT. Mae gyda ni amrywiaeth o ganol trefi, gan gynnwys Stryd Fawr annibynnol arobryn y flwyddyn, Treorci.
Coctêls a Bariau Gwin
Byddwch chi'n falch o glywed bod rhai o'n bariau coctêl gorau dafliad carreg o'r Maes.
Os ydych chi awydd teithio ychydig ymhellach, ewch i Aberdâr, cartref yr Eisteddfod fodern gyntaf, i fwynhau diodydd a'r awyrgylch hyfryd yn Bushra Lounge.
Tipsy Owl, Stryd Fawr, Pontypridd
Mae The Tipsy Owl yn far coctels "cudd" oddi ar y Stryd Fawr, Pontypridd.
Little Pickers, Stryd y Bont, Pontypridd
Mae Little Pickers yn lle bwyta poblogaidd i fwynhau ychydig o bopeth, ac mae'n cynnig opsiwn i fwyta yn y bwyty neu brynu bwyd i'w fwynhau oddi ar y safle, gan gynnwys powlenni salad a byrddau mawr sy'n cynnwys ychydig o bopeth. Mae bar gwin ar gael yno hefyd.
NO 12 Cocktail Bar, Market Street, Pontypridd
Coctels, cerddoriaeth fyw, tapas a llawer yn rhagor
Bushra Lounge, Duke Street, Aberdar
Ystyr “Bushra” ydy 'newyddion da', sy'n addas iawn o ystyried y croeso cynnes mae'r cwmni wedi'i gael gan drigolion y dref hanesyddol yma.
Tafarnau Lleol Croesawgar a Chwrw Blasus
Mae gyda Phontypridd sawl lle i fwynhau diod gyda'r nos – does gyda ni ddim lle i'w rhestru nhw i gyd. Dyma rai ohonyn nhw
Llanover Arms, Llanover Street, Pontypridd
Mae tafarn hynaf Pontypridd wedi'i lleoli ger camlas hanesyddol Sir Forgannwg.
Maen nhw’n cynnig ystod eang o gwrw gwych o sawl bragdy annibynnol ac yn newid yr arlwy yn rheolaidd. Dyma dafarn ei milltir sgwâr go iawn, mae'r ffotograffau a'r arteffactau sydd i'w gweld yn adrodd stori y dafarn yn ogystal â hanes y dref dros y canrifoedd.
Mae ganddi dair ystafell unigryw, gardd gwrw fawr ac adloniant byw yn ystod misoedd yr haf.
The Bunch of Grapes, Ynysangharad Road, Pontypridd
Mae tafarn 'The Bunch of Grapes' yn dafarn hanesyddol sy’n dyddio’n ôl i ganol y 1800au, ar un o’r ychydig rannau sydd wedi goroesi o Gamlas Sir Forgannwg gerllaw sy’n cael ei hadnewyddu ar hyn o bryd.
Mae'r dafarn wedi'i lleoli wrth ymyl canol y dref. Dyma dafarn 'gastropub' brysur a phoblogaidd gyda bwydlen sy'n cynnwys dewisiadau o ffynonellau lleol sydd wedi'u paratoi'n ffres ar y safle, gan gynnwys bara wedi'i bobi’n ddyddiol gan ddefnyddio grawn o'r bragdy. Mae achlysuron bwyd a diod arbennig yn digwydd trwy gydol y flwyddyn Mae’n cael ei chynnwys yn gyson yng nghanllaw'r 'Good Food Guide'.
Mae'r bar hefyd yn enwog am ei amrywiaeth unigryw o gwrw crefft a seidr gwadd gyda naw casgen a phum barilan ar gael bob amser. Mae hyn yn cynnwys ei ystod ei hun o gwrw crefft arobryn, CWRW OTLEY,
Otley Brewpub and Kitchen, Forest Road, Treforest
Mae’r Otley Brewpub and Kitchen yn far a bwyty annibynnol sy’n gwerthu ei gwrw ei hun gan Mabby Brewing Co, a ddatblygwyd gan fragwr arobryn, yn ogystal ag ystod enfawr o gwrw gan fragdai eraill.
Mae’n brofiad bwyta ac yfed unigryw.
Clwb Y Bont, Taff Street, Pontypridd
Y bar eiconig yma yw’r lle i fod ym Mhontypridd, bydd cerddoriaeth fyw, cwisiau a rhaglen unigryw o achlysuron yno drwy gydol wythnos yr Eisteddfod.
Mae'r gyrchfan arbennig yma ar Stryd y Taf dafliad carreg o fynedfa'r Maes, ac mae'r staff yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i fwynhau adloniant anhygoel, diodydd, comedi, dathliadau a rhagor.
Awyrgylch fodern
Dewch i fwynhau bwyd blasus, lleoliadau gwerth eu rhannu a chroeso cynnes enwog y Cymoedd
Zucco Juice Bar, Mill Street, Pontypridd
Bydd busnes Zucco Juice Bar yn cynnal ei ŵyl Eisteddfod ei hun gan gynnig oriau agor hwyrach, cerddoriaeth fyw, pizza, gwin, coffi a llawer yn rhagor.
Alfred's Bar and Grill, Market Street, Pontypridd
Bwyty arddull brasserie yw Alfred's Bar and Grill lle mae'r pwyslais ar wasanaeth lluniaidd, cynhwysion o'r ansawdd uchaf, bwyd eithriadol ac awyrgylch tebyg i brasserie yn Efrog Newydd - ond wedi'i leoli yma ym Mhontypridd.
La Luna, Talbot Road, Pontyclun
Mae'r bar a thŷ bwyta tapas yma, sydd wedi ennill gwobrau, yn lle gwych ar gyfer pob achlysur, gydag ystod o ddiodydd, pwdinau arbenigol a choctels.
Mwynhewch ginio blasus hamddenol, pryd o fwyd arbennig gyda'r nos, neu noson allan gyda ffrindiau a choctels yn ei ardaloedd adloniant preifat.
Blok Restaurant, Lanelay Hall, Lanelay Road, Talbot Green
Mae Blok wedi'i leoli yng Ngwesty hardd Lanelay Hall, gan gynnig cyfleoedd ciniawa coeth sy'n dathlu blasau Cymru a Phrydain.
Mae modd i chi fwynhau coctêls poblogaidd, moctêls a detholiad cynhwysfawr o winoedd
Mae Blok yn rhan o'r arlwy yn Lanelay Hall, gwesty sba hardd gyda 19 ystafell wely unigryw. Dewch i ymlacio yn sba Tribe neu ardaloedd y bar a'r lolfa.
Llechwen Hall Restaurant, Llanfabon
Ac yntau'n blasty gwledig swynol ar un adeg, a bellach yn westy hamddenol, modern, mae Neuadd Llechwen yn swatio mewn amgylchedd hardd ac mae'n cynnwys 46 ystafell wely en-suite modern a helaeth sydd wedi’u dylunio’n dda.
Mae'n cynnig ystod o ddewisiadau bwyd blasus, gan ddefnyddio cynnyrch lleol lle bo'n bosibl, gan gynnwys ciniawau ysgafn, prydau bwyty, te prynhawn a chiniawau dydd Sul.
Sunsets and Sunrises
Does dim ffordd well o ddathlu dechrau diwrnod newydd cyffrous – neu ddiwedd diwrnod gwych – na thaith gerdded. Mae mynyddoedd yn lle perffaith i wylio'r haul yn codi ac yn machlud. Ewch â fflasg o de poeth, ac ewch i grwydro! Haul yn codi ac yn machlud.
Dog Friendly RCT
Sy'n addas i gŵn yn RhCT
Os mai mynd am dro ar ben mynydd, crwydro mannau agored y sir, neu weld rhaeadrau sy'n mynd â'ch bryd chi, RCT yw'r lle perffaith i gŵn ddod â'u perchnogion!Mae'n amhosibl peidio â gwenu wrth weld cŵn yn mwynhau anturiaethau ac yn llyfu 'puppachino'. Rhondda Cynon Taf cyfeillgar i gŵn